Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Ionawr 2017
Amser y
cyfarfod: 13.30
(30 munud)
(60 munud)
(5 munud)
(60 munud)
NDM6208 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a diogelu hawliau pensiwn cronedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol ac allweddol y diwydiant dur i Gymru a'i heconomi.
2. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi er mwyn helpu i sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu a bod swyddi dur yn cael eu cadw ar holl safleoedd TATA yng Nghymru.
3. Yn nodi'r trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a TATA ynghylch pensiynau ac yn cydnabod mai penderfyniad i'r gweithwyr fydd unrhyw newidiadau i'r cynllun pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai fod unrhyw ymyrraeth wleidyddol.
4. Yn annog TATA i egluro'n glir ac yn fanwl i'r gweithwyr oblygiadau'r cytundeb y maent wedi cytuno arno.
5. Yn nodi'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi arwain trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod hawliau'r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y trafodaethau hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf.
6. Yn cydnabod y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno â gweithwyr ac undebau o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw'r gweithfeydd ar agor.
2. Yn credu ei bod hi'n hanfodol bod gweithwyr yn cael yr amser a'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ar y cynigion ar sail gwybodaeth.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi sylwadau'r Prif Weinidog ar y cynnig i weithwyr Tata Steel a'i effaith ar ddyfodol hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU o ran cefnogi'r diwydiant dur drwy gyflwyno'r rheolau newydd ar gaffael cyhoeddus a thrwy gynyddu cymorth ynghylch costau ynni, gan sicrhau arbedion o £400 miliwn i'r diwydiant erbyn diwedd tymor Senedd bresennol y DU.
3. Yn cydnabod mai dyma'r unig gynnig sydd ar gael i weithlu Tata Steel ar hyn o bryd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu strategaeth amgen pe digwydd i'r cynnig hwn gael ei wrthod.
(60 munud)
NDM6209 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai'r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;
b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac
c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt (b) dileu 'y dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'.
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn is-bwynt (c) dileu 'y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'y dylai Ofgem ymrwymo i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli'.
(30 munud)
NDM6205 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryder am y casgliadau sbwriel tair a phedair wythnos a gynigir gan rai awdurdodau lleol ledled Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynghorau yn casglu gwastraff gweddilliol bob pythefnos fan lleiaf, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ac atal tipio anghyfreithlon.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig casglu biniau bob tair wythnos neu bob pedair wythnos.
2. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru yn 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff' y bydd pob sector yng Nghymru yn ailgylchu o leiaf 70 y cant o'i wastraff erbyn 2025.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy wahardd deunydd pacio Styrofoam.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i alluogi pobl i gynyddu faint o wastraff y maent yn ei ailgylchu drwy gyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer plastig, gwydr a chaniau.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi llwyddiant Cymru wrth ailgylchu 60 y cant o'i gwastraff yn 2015/16 a chyflawni'r gyfradd ailgylchu uchaf yn y DU a'r 4ydd uchaf yn Ewrop.
2. Yn derbyn ymreolaeth awdurdodau lleol, yn ysbryd lleoliaeth, i benderfynu pa mor aml y dylent gasglu gwastraff gweddilliol tra'n cydnabod nad yw casgliadau gwastraff llai aml yn arwain at ragor o dipio anghyfreithlon nac yn peryglu iechyd y cyhoedd.
(30 munud)
NDM6207 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o gymorth i fusnesau bach yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio ardrethi annomestig yn 2017, gan gynnwys rhagor o wybodaeth am y £10 miliwn o gyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn
Gwelliant 1.
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod:
a) bod ardrethi annomestig yn cyfrannu £1biliwn at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru;
b) y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu mwy na £200 miliwn o gymorth i drethdalwyr yng Nghymru yn 2017-18 i dalu ardrethi annomestig; a
c) bod Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn cynnwys cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol newydd sy'n werth £10 miliwn i helpu busnesau yr effeithir arnynt gan y broses ailbrisio a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio, a chynllun rhyddhad arbennig newydd wedi'i dargedu, sy'n werth £10 miliwn, i roi cymorth ychwanegol i'r stryd fawr.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei dad-ddethol]
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu'r rhyddhad ardrethi busnes ychwanegol gwerth £10 miliwn sydd wedi'i sicrhau gan Blaid Cymru fel rhan o'r trafodaethau ynghylch cyllideb 2017/18.
(30 munud)
NDM6206 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Cywiro'r cam - honiadau hanesyddol yn ymwneud â disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer Plant Byddar.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Ionawr
2017